Mae croeso i artistiaid dros 16 oed o'r Canolbarth a'r ffiniau gyflwyno celfweithiau gwreiddiol i Gystadleuaeth Celf Agored Hafren 2023. Noddir yn garedig gan Makefast Ltd ar gyfer y wobr gyntaf o £300.
Cystadleuaeth Celf Agored Hafren – Ffrurflen Gais 2023
Os hoffech gyflwyno cais, cwblhewch ein ffurflen gais ar-lein yma os gwelwch yn dda.
Nodiadau ar gyfer Artisitiaid /Amodau a Thelerau:
Gwahoddir hyd at 2 ddarn o waith gan artisitiaid ar unrhyw ffurf. Ni ellir derbyn gweithiau tri-dimensiwn oni bai bod modd eu rhoi ar y wal. Maint derbyniol hyd at 80cm x 80cm (yn cynnwys y ffrâm).
Dewis a dethol:
O ganlyniad i ddiffyg lle, ni ellir gwarantu y bydd pob darn o waith yn cael ei arddangos, sut bynnag, gwnawn ein gorau glas i arddangos celfweithiau gan gynifer o artistiad â phosibl. Derbynnir unrhyw geisiadau ar disgresiwn y trefnwyr.
Beirniaid:
Bydd y beirniaid yn gwneud eu penderfyniadau ddydd Iau 30 Tachwedd a bydd yr holl wobrau yn cael eu cyflwyno yn y digwyddiad arddangos preifat ddydd Gwener 1 Rhagfyr 2023. Gwahoddir yr holl artistiaid sydd wedi cyflwyno gweithiau, ynghyd â'u ffrindiau, i'r digwyddiad arddangos cyhoeddus. Mae penderfyniad y beirniaid yn derfynol a ni chaniateir unrhyw ohebiaeth o dan unrhyw amgylchiadau.
Dewis y Pobl:
Bydd modd pleidleisio o ddydd Llun 4 Rhagfyr 4 tan ddydd Gwener 19 Ionawr. Caniateir un pleidlais fesul pob unigolyn ac ni dderbynnir unrhyw bleidleisiau dyblyg. Bydd yr enillydd yn cael ei hysbysu ddydd Llun 22 Ionawr 2024 a chyhoeddir y canlyniadau ar wefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Hafren.
Dosbarthu a Chasglu:
Rhaid dod ag unrhyw weithiau i Swyddfa Docynnau Hafren (gweler yr oriau agor os gwelwch yn dda) rhwng dydd Llun 20 Tachwedd a dydd Mercher 22 Tachwedd 2023 (dyma amod cyflwyno ac ni dderbynnir unrhyw weithiau ar ôl y dyddiad hwnnw. Am resymau diogelwch defnyddiwch platiau drych ar unrhyw weithiau, dim weiar neu linyn (ni ellir derbyn gweithiau heb blatiau drych). Rhaid casglu unrhyw weithiau a arddangosir sydd heb eu gwerthu yn ystod yr wythnos yn dechrau 29 Ionawr 2024. Bydd yr artistiaid o unrhyw weithiau nad ydynt yn cael eu gwerthu yn cael eu hysbysu.
Dull Adnabod:
Rhaid labelu unrhyw weithiau yn glir ar y blaen a'r cefn gyda'r enwau, teitl, cyfrwng a phris gwerthu (gweler isod) gyda label gludiog ar y cefn a label bag ar y blaen.
Cofrestru:
Mae ffi fach o £8 er mwyn trin â phob gwaith a dderbynnir.
Yswiriant:
Bydd ein hywsiriant yn diogelu unrhyw weithiau o dan ein gofal.
Gwerthiannau a Chomisiwn:
Rhaid i unrhyw weithiau a gyflwynir fod ar gael i'w gwerthu (posibilrwydd o eithriadau arbennig). Bydd Hafren yn cymryd comisiwn o 25% + TAW. Bydd ffi fach gan y banc hefyd ar gyfer unrhyw weithiau a brynir wrth ddefnyddio cardiau credyd/debyd.
Cystadleuaeth Celf Agored Hafren – Ffrurflen Gais 2023
Os hoffech gyflwyno cais, cwblhewch ein ffurflen gais ar-lein yma os gwelwch yn dda.



Oriel Hafren
Mae'r oriel ar agor ar ddydd Llun, Mercher, Iau a Gwener 9.30am tan 2.30pm ac ar ddydd Sadwrn am ddwy awr cyn unrhyw berfformiadau.
Mynediad am ddim. Efallai y bydd yr oriau agor yn ystod y dydd yn cael eu cwtogi o bryd i'w gilydd; cysylltwch â'r swyddfa docynnau os hoffech sicrhau y bydd yr oriel yn agored ar gyfer eich ymweliad. Mae digwyddiadau lansio arddangosiadau yn agored i bawb ac yn cynnig cyfle i chi gwrdd â'r artisistiaid a thrafod eu gwaith. Mae coffi ar gael am ddim yn ystod sesiynau lansio.