Swyddfa Docynnau Hafren 01686 948100

Hafren at Home
Gweithdai, Dosbarthiadau a Ffrydio Byw

Yn yr hinsawdd bresennol bu'n rhaid i Hafren ailasesu'r Cynlluniau Ymgysylltu â'r Gymuned ar gyfer 2020-21. Mae Covid-19 wedi dod â ffordd newydd o weithio i ddiwydiant y celfyddydau ac er i ni gyflwyno nifer o brosiectau treial ar-lein, erbyn hyn rydym wedi datblygu gweithio ar-lein yn helaeth.

Hafren at Home


Gweithdy Dysgu Canu a Rhythm Am Ddim

Mae ein set lawn o weithdai canu ar-lein mewn cydweithrediad â Charlotte Woodford bellach ar gael i'w gwylio ar lein ar y sianel YouTube lifebulblive. Mae ein cwrs ar-lein yn helpu datblygu rhuglder mewn cerddoriaeth i bob oedran. Dysgwch gywair, gweithio gyda phwls a rhythm, mynegiant, darllen ac ysgrifennu cerddoriaeth, gallwch fwynhau ymestyn eich ymennydd a chael mewnwelediad i iaith anhygoel cerddoriaeth. Fideo cyflwyniadol: https://youtu.be/HOdtB9oiFa8

Gyda diolchiadau enfawr i'r Sefydliad Da Capo am ddarparu'r dull, ac i Gyngor Celfyddydau Cymru a'r Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth a'u cyllid.


Ffrydio Ar-lein
Ymddiheurwn - Does dim sioeau yn y gronfa ddata ar hyn o bryd