Swyddfa Docynnau Hafren 01686 948100
Mae ein Swyddfa Docynnau wedi ail-agor i'r cyhoedd ar gyfer ymweliadau wyneb yn wyneb. Dyma'r oriau agor newydd i'r cyhoedd:
| Diwrnod | Oriau Agor |
|---|---|
| Dydd Llun | 09:30 - 14:30 |
| Dydd Mawrth | AR GAU |
| Dydd Mercher | 09:30 - 14:30 |
| Dydd Iau | 09:30 - 14:30 |
| Dydd Gwener | 09:30 - 14:30 |
| Dydd Sadwrn | AR GAU |
| Dydd Sul | AR GAU |
* Os ydych chi'n teithio i mewn yn benodol i ymweld â'r Swyddfa Docynnau, gwiriwch ei bod ar agor. Gobeithiwn na welwn unrhyw darfu, ond mae staff Hafren yn destun cyfyngiadau Covid a phe bai unrhyw un wedi'i nodi fel Cyswllt Covid uniongyrchol ac / neu yn cael prawf positif, ni fyddant yn dod i'r gwaith. Gall hyn olygu y bydd gofyn i ni gau ar fyr rybudd.
Mae ein gwefan newydd ei dylunio ar gael wrth gwrs a gall cwsmeriaid brynu tocynnau trwyddi, yn ogystal â galw i mewn i'r Swyddfa Docynnau. Wrth ymweld â'r Swyddfa Docynnau, gofynnwn i bob ymwelydd wisgo mwgwd, defnyddio'r glanweithydd dwylo a ddarperir a pharchu pellter cymdeithasol rhwng ei gilydd. Gan fod y Swyddfa Docynnau wrth y prif ddrysau, hwn yw'r pwynt cyrraedd ac ymadael o hyd. Byddwch yn ymwybodol bod myfyrwyr y Coleg wedi dychwelyd i'r safle, ac os ydych am ddefnyddio'r toiledau mae posibilrwydd o orfod ciwio.
Canolfan Gynadledda Hafren
Mae Hafren wrth ei bodd ei bod yn gallu ailagor ei Hystafelloedd Cynadledda ar eu newydd wedd. Mae gwelliannau diogel o ran Covid yn cynnwys dodrefn a llawr newydd, ynghyd â phrotocolau glanhau gwell. Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn peiriannau lluniaeth newydd sy'n cynnig dewis ehangach o ddiodydd nag a oedd ar gael o'r blaen, ac sy'n hawdd eu defnyddio. Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu'r cyfleuster hwn ar gyfer cyfarfod o 5 hyd at 50 o bobl, e-bostiwch i drafod eich gofynion ymhellach.
Byddwn yn postio diweddariadau ar y gwaith adnewyddu wrth iddo fynd yn ei flaen. Cadwch lygad ar ein Gwefan a'n Cyfryngau Cymdeithasol. Ni allwn aros i'ch croesawu chi i gyd yn ôl yn 2022, rydyn ni wir wedi eich colli chi! Bydd rhaglen 2022 yn cynnwys llawer o bethau annisgwyl, gwyliwch y gofod hwn.
Diogelwch y cyhoedd a staff fydd ein blaenoriaeth bob amser yma yn Hafren.
Buddsoddwyd mewn Uned Trin Aer a system wresogi newydd o'r radd flaenaf. Bydd y buddsoddiad hwn o £250,000 gan Grŵp Colegau NPTC yn sicrhau y bydd ein cwsmeriaid ond yn anadlu awyr iach ac y byddant yn profi tymheredd cyfforddus wrth eistedd yn ein hawditoriwm.
| Sioe | Dyddiad Gwreiddiol | Aildrefnwyd / Canslwyd |
|---|---|---|
| BBC National Orchestra of Wales | 18 / 19 Medi 2021 | 17 / 18 Medi 2022 |
| An Evening with Shane Williams | Dydd Sadwrn 29 Ionawr 2022 | Dydd Mercher 20 Ebrill 2022 |
| 80s Live! | Dydd Gwener 8 Hydref 2021 | Dydd Sadwrn 18 Mehefin 2022 |
| Harpy starring Su Pollard | Dydd Gwener 15 Hydref 2021 | Yn disgwyl dyddiad newydd |
| The ELO Show | Dydd Gwener 29 Hydref 2021 | Dydd Gwener 25 Mawrth 2022 |
| Girls Just Wanna Have Fun | Dydd Sadwrn 13 Tachwedd 2021 | Sioe wedi'i Chanslo / Ad-daliadau |
| An Evening of Burlesque | Dydd Gwener 26 Tachwedd 2021 | Dydd Gwener 22 Ebrill 2022 |
| UK Pink Floyd Experience | Dydd Sadwrn 27 Tachwedd 2021 | Dydd Sadwrn 9 Gorffennaf 2022 |
| Ed Byrne | Dydd Sadwrn 11 Rhagfyr 2021 | Dydd Sadwrn 23 Ebrill 2022 |
| Nick Butter | Dydd Iau 27 Ionawr 2022 | Dydd Iau 21 Ebrill 2022 |
| Sir Ranulph Fiennes | Dydd Gwener 28 Ionawr 2022 | Sioe wedi'i Chanslo / Ad-daliadau |
Ni fydd y gwaith hwn yn effeithio ar y dosbarthiadau wythnosol a gynhelir yn ein Bar Oriel a byddant yn parhau i redeg.