Swyddfa Docynnau Hafren 01686 948100

Ar y Sgrin yn Hafren

Beth Sydd Ymlaen: Ar y Sgrîn yn Hafren

Gyda'n sgrîn sinema newydd sbon a sain amgylchynu 7.1 ar flaen y gad, mae Hafren nawr yn cynnig cynhyrchiadau theatr, ffilmiau ac arddangosiadau celf o bedwar ben y byd o dan ein platfform 'Sgrîn Hafren'.

Y gorau o Theatr Brydeinig ar ein sgrîn sinema uwchdechnoleg.

National Theatre Live

Beth ydych chi'n dod i'w wylio?

Ffilmiau cyffrous, comedïau rhamantaidd, ffilmiau llawn antur?

Theatr Genedlaethol Fyw - The Crucible
Theatr Genedlaethol Fyw - Best of Enemies
Theatr Genedlaethol Fyw - Much Ado About Nothing

Theatr Genedlaethol Fyw (encore)

Mae THEATR GENEDLAETHOL yn gwneud cynhyrchiadau theatr sy'n difyrru, herio ac ysbrydoli. Os ydych yn dod i ddrama ddifrifol, comedi rhamantaidd neu sioe arobryn sy'n gwerthu pob tocyn, mae'r Theatr Genedlaethol Fyw yn dod â theatr nad oes neb eisiau ei golli yn uniongyrchol i Sgrîn Hafren, wedi'u ffilmio'n wreiddiol yn fyw ar lwyfannau mwyaf cyffrous Prydain. Gyda'r sgrîn arloesgar a'r sain amgylchynu, ni ddylech golli'r cyfle i weld y sioeau hyn!

Ffilmiau yn y Prynhawn

Trwy gydol y flwyddyn rydym yn cynnig Ffilmiau yn y Prynhawn a ddangosir ddydd Mercher olaf bob mis. Fel arfer maent yn dechrau am 1pm ac yn aml yn cynnwys diod poeth am ddim gyda phris y tocyn fel y nodir.
Ein Rhestr o Ffilmiau yn y Prynhawn

Perfformiadau Hamddenol: mae'r sioeau hyn i bawb!

Cynhelir y perfformiadau mewn amgylchedd cyfeillgar a hamddenol, wedi'i gynllunio i ddarparu ar gyfer aelodau'r gynulleidfa ag anableddau fel (ond heb fod yn gyfyngedig i) cyflyrau'r sbectrwm awtistiaeth, anhwylderau synhwyraidd a chyfathrebu, anableddau dysgu, cleifion dementia, neu hyd yn oed plant ifanc.

Dementia Friends
Autism Awareness

Dyma rai o nodweddion y sioeau hyn:

  • Cyflwyniad yn egluro beth fydd yn digwydd a phryd.
  • Stiwardio ychwanegol gydag ymwybyddiaeth o ddementia ac anabledd i gynorthwyo ein holl gwsmeriaid.
  • Egwyl ar gyfer lluniaeth a chysur.
  • Newidiadau i oleuadau a sain y sioe.
  • Arwyddion clir o amgylch y theatr.
  • Agwedd hamddenol i symudiadau ac ymatebion y gynulleidfa yn ystod y sioe.
  • Man tawel ar gael cyn, yn ystod ac ar ôl y sioe.
Ein Rhaglen Dangosiadau Hamddenol

Trafalgar ar y Sgrîn

TRAFALGAR RELEASING yw'r arweinydd byd-eang mewn dosbarthu digwyddiadau sinema. Mae sbectrwm llawn o weithiau newydd yn cynnwys celfyddydau uchel, theatr arobryn a sêr y byd cerddoriaeth gyfoes. Croeso i ddigwyddiad sy'n dod yn fwyfwy poblogaidd sef Event Cinema.

Trafalgar Releasing

Cymysgedd o gyngherddau, theatr, opera, bale, ffilmiau a digwyddiadau byw.

Sgrinio Sinema - Anything Goes
Sgrinio Sinema - Anything Goes
Sgrinio Sinema - Tim Minchin

Oriel ar y Sgrîn

Wrth weithio gydag amgueddfeydd ac orielau rhyngwladol o fri, mae EXHIBITION ON SCREEN yn creu ffilmiau sy'n cynnig ymdrwythiad sinematig i hoff gelf y byd, ochr yn ochr â chiploygon gan hanesyddion a beirniaid celf arweiniol y byd.

Vermeer The Greatest Exhibition
Tokyo Stories
Hafren Live Screenings
Hafren Encore
Hafren Movie Matinees
National Theatre Live
Exhibition On Screen